Back to Job Search

Peirianwyr Mecanyddol

  • Location: Anglesey, LL60 6AG
  • Salary: Yn dibynnu ar brofiad
  • Job Type:Permanent

Posted over 1 year ago

  • Sector: Nuclear
  • Contact: Tim Millbank
  • Contact Email: tmillbank@nrl.co.uk
  • Contact Phone: 01942 323277
  • Duration: Initial 12 months - permanent opportunites available
  • Start Date: 11 August 2025
  • Expiry Date: 11 September 2025
  • Job Ref: V-165938-1

Mae gan NRL gyfleoedd cyffrous ar gyfer Peirianwyr Dylunio Mecanyddol (pob lefel) gydag un o'n cleientiaid blaenllaw, Tenet Consultants Ltd. Maent yn arbenigwyr mewn peirianneg a dylunio amlddisgyblaethol arloesol, wedi' eu lleoli ar hyn o bryd yn Warrington a Cumbria. Ym mis Ionawr 2024 byddant yn agor swyddfa newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru ac yn ceisio ymgysylltu â phersonél lleol i ymuno â'u tîm.

Fel Ymgynghoriaeth Dylunio Peirianneg, mae Tenet yn darparu gwasanaethau dylunio a thechnegol arbenigol i amrywiaeth o sectorau diwydiant, yn bennaf Niwclear. Mae eu gweithgareddau dylunio mecanyddol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Astudiaethau Dylunio Peirianneg Cysyniad a Phen blaen (FEED)

  • Manyleb Offer

  • Dylunio Manylion

  • Cadarnhad Peirianneg

  • Dylunio Trin Mecanyddol Arbenigol

  • Dylunio Pibellau Mecanyddol

  • Gosod gweithgynhyrchu a Chymorth Comisiynu

  • Adolygiadau Cyfnodol o Ddiogelwch

  • Cofnodion Ansawdd Oes (LQR)

  • Dylunio System Ddiogelwch

  • Asesiad Diogelwch Niwclear Annibynnol (INSA) ac Adolygiad Cymheiriaid


Yr hyn y bydd ei angen arnoch chi:

  • Profiad o weithio mewn diwydiant sy'n cael ei reoleiddio i safon uchel , yn ddelfrydol Niwclear.

  • Isafswm HNC.

  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.

  • Y gallu i wneud cyfrifiadau dylunio mecanyddol, cynhyrchu manylebau technegol ac ymholiadau, taflenni data, perfformio gwerthusiadau cynigion technegol.

  • Gwirio dogfennau dylunio.

  • Rhaid bod gan bob ymgeisydd y gallu i gael BPSS.

  • AutoCAD, Inventor, pecyn cyffredinol Microsoft Office.


Beth yw’r fantais i chi?:

  • Swyddi contract neu swyddi parhaol ar gael

  • Portffolio o waith diddorol

  • Tâl / cyflogau cystadleuol

  • Gweithio hybrid ar gael


Am y Cleient:

Mae gan dîm Mecanyddol Tenet flynyddoedd lawer o brofiad mewn Niwclar a diwydiannau tra reoledig eraill. O’r cysyniad cychwynnol, a’r dichonoldeb trwy gomisiynu, adeiladu a’r datgomisiynu yn y pen draw, mae gan Tenet y profiad a’r gallu i ddarparu dylunio a pheirianneg un ddisgyblaeth ac amlddisgyblaeth i ateb eich gofyniono’r gofal asedau hyd at rhoi cymorth i prosiectau sylweddol.


Ynglŷn â NRL:
Mae NRL yn cysylltu cwmnïau peirianneg byd-eang â'r bobl iawn i ddod â'u prosiectau'n fyw. Wrth i ni symud ymlaen â’ch cais bydd ein tîm o recriwtwyr dawnus wrth law i’ch cefnogi i sicrhau eich rôl nesaf.

Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir, ac rydym wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y diwydiannau rydym yn eu cefnogi. Dyna pam mae ein statws Aelod sydd wedi Ymrwymo i Amrywiaeth gyda’r Gymdeithas Cwmnïau Staffio Proffesiynol mor bwysig i ni.